2016 Rhif 361 (Cy. 113)

ADEILADU AC ADEILADAU, CYMRU

Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 (“Rheoliadau 2010”). Maent yn trosi Erthygl 8 o Gyfarwyddeb 2014/61/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mai 2014 ar fesurau i leihau’r gost o osod rhwydweithiau cyfathrebu electronig cyflym([1]).

Mae rheoliad 2(4) yn mewnosod Rhan 9A newydd yn Rheoliadau 2010, sy’n darparu ar gyfer cydymffurfio â Rhan R newydd (seilwaith ffisegol ar gyfer rhwydweithiau cyfathrebu electronig cyflym) o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hynny. Mae rheoliad 2(5) yn mewnosod y Rhan R newydd, sy’n ei gwneud yn ofynnol gosod seilwaith ffisegol, ym mhob adeilad newydd ac adeiladau sy’n ddarostyngedig i waith adnewyddu sylweddol, hyd at bwynt lle y gellir cysylltu â rhwydweithiau cyfathrebu electronig cyflym. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol gosod pwynt mynediad i’r rhwydwaith hwnnw mewn adeiladau aml annedd.

Mewnosodir y rheoliadau 44A a 44B newydd yn Rheoliadau 2010 gan reoliad 2(4). Mae’r rheoliad 44A newydd yn cymhwyso Rhan R i gategorïau o adeiladau na fyddant fel arall wedi eu cynnwys yn Rheoliadau 2010. Mae’r rheoliad 44B newydd yn nodi’r esemptiadau o ofynion Rhan R.

Mae rheoliad 2 yn diwygio ymhellach Reoliadau 2010. Mae rheoliad 2(2) yn darparu bod y Rhan R newydd yn gymwys i adeiladau a fyddai fel arall yn esempt gan eu bod o fewn dosbarth 1 (adeiladau a reolir o dan ddeddfwriaeth arall) o Atodlen 2 i Reoliadau 2010. Mae rheoliad 2(3) yn eithrio’r Rhan R newydd o bŵer yr awdurdod lleol o dan adran 8(1) o Ddeddf Adeiladu 1984 a rheoliad 11 o Reoliadau 2010 i hepgor neu lacio gofynion yn Rheoliadau 2010.

Mae rheoliad 3 yn cynnwys darpariaeth drosiannol.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar y wefan yn https://www.wales.gov.uk.

 

 


2016 Rhif 361 (Cy. 113)

ADEILADU AC ADEILADAU, CYMRU

Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2016

Gwnaed                               10 Mawrth 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       15 Mawrth 2016

Yn dod i rym                             8 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi([2]) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([3]) mewn perthynas â dylunio a chodi adeiladau, ac mewn perthynas â gwasanaethau, ffitiadau a chyfarpar a ddarperir yn yr adeiladau hynny neu mewn cysylltiad â hwy.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a chan adrannau 1, 3, 8(6) a 34 o Ddeddf Adeiladu 1984 a pharagraffau 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi([4]), sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([5]), ar ôl ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu a’r cyrff eraill hynny yr ymddengys iddynt hwy sy’n cynrychioli’r buddiannau o dan sylw yn unol ag adran 14(7) o Ddeddf Adeiladu 1984([6]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2016.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i adeilad ynni a eithrir ac mae i “adeilad ynni a eithrir” yr un ystyr ag a roddir i “excepted energy building” yn yr Atodlen i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009([7]).

(4) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Ebrill 2016.

Diwygiadau i Reoliadau Adeiladu 2010

2.(1) Mae Rheoliadau Adeiladu 2010([8]) wedi eu diwygio yn unol â’r paragraffau a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 9 (adeiladau a gwaith esempt)—

(a)     ym mharagraff (1) yn lle “and (3)” rhodder “, (3) and (4)”; a

(b)     ar ôl paragraff (3), mewnosoder y paragraff a ganlyn—

(4) The requirements of paragraph R1 of Schedule 1 apply to buildings controlled under other legislation falling within class 1 in Schedule 2.”

(3) Yn rheoliad 11(3) (pŵer i hepgor neu lacio gofynion), yn lle “and 29A” rhodder “, 29A and paragraph R1 of Schedule 1”.

(4) Ar ôl rheoliad 44 (comisiynu) mewnosoder y pennawd Rhan a’r rheoliadau a ganlyn—

“PART 9A

Physical infrastructure for high speed electronic communications networks

Application of paragraph R1 of Schedule 1 to educational buildings, buildings of statutory undertakers and Crown buildings

44A. The requirements of paragraph R1 (in-building physical infrastructure for high-speed electronic communications networks) of Schedule 1 apply to—

(a)   educational buildings and buildings of statutory undertakers, falling within paragraphs (a), (b) or (c) of section 4(1) of the Act (notwithstanding section 4(1) of the Act);

(b)  Crown buildings; and

(c)   building work carried out or proposed to be carried out by Crown authorities.

Exemptions from paragraph R1 of Schedule 1

44B. The requirements of paragraph R1 (in-building physical infrastructure for high-speed electronic communications networks) of Schedule 1 do not apply to the following types of building or building work—

(a)   buildings which are—

                       (i)  listed in accordance with section 1 of the Planning (Listed Buildings and Conservation Areas) Act 1990,

                      (ii)  in a conservation area designated in accordance with section 69 of that Act, or

                     (iii)  included in the schedule of monuments maintained under section 1 of the Ancient Monuments and Archaeological Areas Act 1979,

where compliance with paragraph R1 of Schedule 1 would unacceptably alter their character or appearance;

(b)  buildings—

                       (i)  occupied by the Ministry of Defence or the armed forces of the Crown, or

                      (ii)  otherwise occupied for purposes connected to national security;

(c)   buildings situated in isolated areas where the prospect of high-speed connection is considered too remote to justify equipping the building with high-speed ready in-building physical infrastructure or an access point;

(d)  major renovation works in cases in which the cost of compliance with paragraph R1 of Schedule 1 would be disproportionate to the benefit gained.

Interpretation of Part R of Schedule 1

44C. In Part R of Schedule 1—

“access point” means a physical point, located inside or outside the building, accessible to undertakings providing or authorised to provide public communications networks, where connection to the high-speed ready in-building physical infrastructure is made available;

“high-speed electronic communications network” means an electronic communications network which is capable of delivering broadband access services at speeds of at least 30 Mbps;

“high-speed ready in-building physical infrastructure” means in-building physical infrastructure intended to host elements, or enable delivery, of high-speed electronic communications networks;

“in-building physical infrastructure” means physical infrastructure or installations at the end-user’s location, including elements under joint ownership, intended to host wired or wireless access networks, where such access networks are capable of delivering electronic communications services and connecting the building access point with the network termination point;

“major renovation works” means works at the end-user’s location encompassing structural modifications of the entire in-building physical infrastructure, or of a significant part of it;

“network termination point” means a physical point at which an occupier is provided with access to high-speed electronic communications networks.”

(5) Yn Atodlen 1 (gofynion) ar ôl Rhan Q (diogelwch), mewnosoder y Rhan a ganlyn—

 

Part R PHYSICAL INFRASTRUCTURE FOR HIGH SPEED ELECTRONIC COMMUNICATIONS NETWORKS

In-building physical infrastructure

R1

(1) Building work must be carried out so as to ensure that the building is equipped with a high-speed ready in-building physical infrastructure, up to a network termination point for high-speed electronic communications networks.

(2) Where the work concerns a building containing more than one dwelling, the work must be carried out so as ensure that the building is equipped in addition with a common access point for high-speed electronic communications networks.

 

 

 

Requirement R1 applies to building work that consists of—

(a) the erection of a building; or

(b) major renovation works to a building.

Darpariaeth drosiannol

3. Nid yw rheoliad 2 yn gymwys i waith adeiladu y rhoddir hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol neu dystysgrif planiau mewn cysylltiad ag ef i awdurdod lleol, neu yr adneuir planiau llawn mewn cysylltiad ag ef gydag awdurdod lleol, cyn 1 Ionawr 2017.

 

 

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

10 Mawrth 2016

 



([1])           OJ L155, 23 Mai 2014, t. 1.

([2])           O.S. 2016/161.

([3])           1972 p. 68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.

([4])           1984 p. 55. Diwygiwyd adran 1 gan adran 1 o Ddeddf Adeiladau Cynaliadwy a Diogel 2004 (p. 22) (“Deddf 2004”); diwygiwyd paragraff 7 o Atodlen 1 gan adran 3 o Ddeddf 2004 a chan adran 11 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd ac Ynni Cynaliadwy 2006 (p. 19); diwygiwyd paragraff 8 o Atodlen 1 gan adran 3 o Ddeddf 2004 a chan adran 40 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29).

([5])           Cafodd y swyddogaethau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1, 3 a 34 o Ddeddf Adeiladu 1984 a pharagraffau 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009 (O.S. 2009/3019).

([6])           1984 p. 55. Mewnosodwyd is-adran (7) gan erthygl 1(2) o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009 (O.S. 2009/3019).

([7])           O.S. 2009/3019.

([8])           O.S. 2010/2214, fel y'i diwygiwyd, fel y disgrifir yn y troednodiadau a ganlyn. Gwnaed diwygiadau eraill, ond nid ydynt yn berthnasol.